Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4306
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-9 a 13. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiynau 11 a 12. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cododd Arweinydd y Tŷ Bwynt o Drefn, yn gofyn am benderfyniad ar p’un a oedd cwestiwn atodol Adam Price i Gwestiwn 4 yn amhriodol o dan Reol Sefydlog 13.9. Dywedodd y Llywydd ei bod wedi gwrando ar y cwestiwn yn ofalus iawn ac nad oedd yr Aelod wedi gwneud unrhyw gyhuddiad nad oedd o fewn trefn. Roedd yn amlwg yn gwestiwn a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog, ac fe atebodd y Prif Weinidog y cwestiwn yn glir, ac nid oedd gan y Llywydd unrhyw beth yn rhagor i’w ddweud ar y mater.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Dechreuodd yr eitem am 14.37
NNDM6373 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6374 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM6374
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil parhad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r setliad datganoli presennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
44 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM6374
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
2. Yn credu:
a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a
b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil parhad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
16 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.35
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Dechreuodd yr eitem am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6367 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu
a Hawliau
Cysylltiedig (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
18 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 19.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6368 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
18 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 19.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6353 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
20 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 19.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6372 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil yr Undebau Llafur (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 19.30
Daeth y cyfarfod i ben am 19.34
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 19 Gorffennaf 2017